MAE nod Plaid Cymru yn glir, sef annibyniaeth i Gymru.

Ond annibyniaeth i bwrpas; i wella cyfleon ac amodau byw ein cyd-Gymry a grymuso cymunedau led led ein gwlad. Nid encilio i ryw niwl Celtaidd rhamantus ond ymddwyn fel cenedl hyderus ryngwladol, yn aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd ochr yn ochr â’r Alban ac Iwerddon unedig, gobeithio.

Ac wrth gwrs, bydd angen cytundeb a fframwaith ymarferol glos gyda’n cymdogion agosaf, Lloegr.

Yn sicr mae rhyw ysbryd mentrus ar droed yng Nghymru, rhyw hyder newydd. Mae angen bod yn ofalus iawn rhag credu y daw Cymru’n rhydd y flwyddyn nesaf yn unig am fod miloedd yn gorymdeithio’n llawn afiaeth. Ond mae arwyddion gobeithiol ac yn y dyddiau tywyll hyn mae cynnau a chynnal gobaith hyd yn oed yn fwy eithriadol o bwysig.

Brexit, hiliaeth ar gynnydd, Rees-Mogg, tlodi ac annobaith ar gerdded, elit asgell dde trahaus, Boris, cau cegau Aelodau Seneddol… Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. A welwyd y fath gasgliad o wleidyddion tila, annoeth ac hunanol erioed yn Ynysoedd Prydain?

Ond deallwn hyn; dydi’r rhestr yma sydd, mae’n wir, wedi esgor ar y fath rwystredigaeth yng Nghymru, ar ei phen ei hun ddim yn mynd i berswadio trwch pobl Cymru i gofleidio annibyniaeth.

A dyna lle mae cyfrifoldeb Plaid Cymru yn dechrau. Bydd raid cael cefnogaeth pobl Cymru trwy refferendwm i symud tuag at ryddid llawn. I sicrhau hynny bydd angen llywodraeth Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Gwnewch eich syms ac fe welwch bod angen dyblu nifer Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, o leiaf, cyn bod unrhyw obaith o basio deddfwriaeth i ganiatau refferendwm. Nid ar chwarae bach y mae cyflawni hynny a dim ond y cam cyntaf ydi hwn.

A gan na fydd annibyniaeth yn cyrraedd yn y post nac fel gwlith bore fory, mae rhaid i ni baratoi’r ffordd trwy gynnal trafodaeth agored na welwyd ei math yng Nghymru ynglyn â natur y Gymru newydd yr ydym am ei gweld.

Bydd rhagor nag un fersiwn o’r Iwtopia hon debygwn i . Ond dyma drafodaeth sy’n gwbl angenrheidiol i’w chael. A dw i’n gobeithio mai trafod y byddwn ni ac nid

ysgyrnygu ar ein gilydd a chyfnewid sloganau.

Bydd angen i’r sgyrsiau hyn ddigwydd o fewn y Blaid ond gan groesawu syniadau o’r tu allan i ffiniau Plaid. Bydd raid trafod ar draws ffiniau pleidiau a grwpiau ymgyrchu o bob math fel bod unigolion ym mhob cwr o’r wlad yn gyfarwydd â’r dadleuon a’r weledigaeth. I ennill y dydd rhaid creu rhyw gonsensws rhwng pleidiau blaengar a grwpiau ymgyrchu y gall pobl Cymru ei dderbyn, ymfalchio ynddo a’i gefnogi.

Mae hen rigwm Cymraeg. ‘Hawdd yw dwedyd, “Dacw’r Wyddfa.” / Nid eir drosto ond yn ara’.’

Ac mae’r un peth yn wir am annibyniaeth. Nid tasg hawdd fydd perswadio ein pobl bod hwn yn llwybr diogel i’w droedio. Bydd rhaid gwneud ag amynedd, dyfalbarhad a meddyliau clir a chytbwys.

Nid ‘panacea’ yw annibyniaeth i’n holl helbulon, ond yn hytrach cyfle; cyfle i roi tegwch a chwarae teg wrth galon ein gwleidyddiaeth genedlaethol ac ail danio gobaith yn ein pobl.

Mae’r her yn enfawr. Mae’r wobr yn un gwerth ei hennill.